Mewn llecyn ym mynwent anghydffurfwyr tref Machynlleth, fis Ebrill 1910, fe chwalwyd llwch Owen Owen, mab fferm Cwm Rhaeadr a saif ddwy filltir i’r de o’r dref ger tarddiad yr afon Llyfnant. Ei fam oedd Esther Evans, ail wraig Owen Owen yr hynaf. Roedd yn ferch i’r diwygiwr Methodistaidd amlwg William Evans. Bu farw Esther pan oedd Owen yr ieuengaf yn saith oed ym 1853. Roedd gan y tad dri o blant o’i briodas gyntaf a phump o’i briodas gydag Esther. Adfeddiannwyd y fferm gan yr awdurdodau pan oe