Ar ôl cyhoeddi llyfrau am dros bum degawd, mae’r nofelydd a’r bardd Eigra Lewis Roberts wedi ildio i gais cyhoeddwr am hunangofiant, ar ôl gwrthod am hir. Yn y llyfr Eigra: Hogan Fach o’r Blaena, mae hi’n trafod ei llyfrau a llwyddiant y gyfres deledu Minafon, yn cyfaddef nad yw hi’n hoffi bod mewn criwiau mawr o ferched, yn cyhuddo adolygwyr o beidio â gwneud eu gwaith yn ddigon trylwyr, yn dathlu clydwch y cwrlid priodasol, ac yn egluro o ble y cafodd y fath g