Mae Delwyn ‘Sheep’ Derrick yn Ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Bellevue FC, wedi ennyn canmoliaeth fawr am ei waith gwirfoddol, ac ef yw un o enillwyr Gwobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru eleni.

Ddiwedd mis Mawrth mi dderbyniodd y wobr ‘Diwylliant a Chwaraeon’ gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, am ei waith gyda’r clwb pêl-droed yn Wrecsam.

Ac ers sefydlu’r tîm mae wedi derbyn cyfres o wobrwyon gan gynnwys ‘Arwr nas Glodforwyd’ Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn 2019.