Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yw’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones.

Cafodd ei geni yn Bermuda a’i magu yn Nhreffynnon, Sir y Fflint. Aeth i Ysgol Uwchradd Glan Clwyd cyn mynd i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, i astudio Ffrangeg a Sbaeneg.

Ymunodd â Mercator o dan arweiniad Ned Thomas a bu’n ddarlithydd ac yn Athro ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn ymuno â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.