Yn bennaeth ysgol gynradd yng Nghasnewydd, mae gan y ddynes 36 oed o Gaerleon ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth, ac mae wedi ei phenodi yn un o ymddiriedolwyr Cyngor Llyfrau Cymru…

Beth yw eich cefndir?

Fe ges i fy magu yn nwyrain Lloegr, ger Stratford, lle gafodd y Gemau Olympaidd eu cynnal yn 2012.

Roedd hi’n ardal flêr a thlawd pan oeddwn i’n tyfu fyny yno… wnes i symud i Gymru ryw bymtheg mlynedd yn ôl, ac fe wnaethon nhw sbriwsho’r lle fyny yr eiliad wnes i adael!