Mae’n naturiol fod llofruddiaeth Sarah Everard yn Llundain wedi creu dychryn ymhlith menywod ac wedi atgoffa llawer o’r dychryn y maen nhw’n ei wynebu’n gyson.

A hithau i’w gweld yn ddynes ifanc lwyddiannus, roedd hi’n naturiol hefyd fod y wasg a’r cyfryngau wedi bachu yn ei hachos. Mae ei stori’n enghraifft berffaith a dwys o’r angen am strydoedd diogel i bob menyw.