Mae cyfyngiadau covid bellach wedi dechrau llacio yng Nghymru ac mae yna deimlad, am y tro cyntaf eleni, bod blwyddyn well o’n blaenau.

Erbyn hyn rydym yn cael ein cynghori i aros yn lleol (yn hytrach nag adre) ac mae modd i bedwar person o ddwy aelwyd gyfarfod yn yr awyr iach.

Mae nifer helaeth o ddisgyblion wedi dychwelyd i’w hysgolion, ac mae siopau trin gwallt wedi ailagor.