Chwarae teg i’r plant, maen nhw’n gwneud cerdyn i mi – dim ond am eu bod nhw’n teimlo fod rhaid iddyn nhw, ond maen nhw’n gwneud yr un fath. Fi mewn ffelt tip, yn Bicasso anfwriadol o wefusau pinc a thrwyn siâp L. Mewn cymysgfa flêr llawysgrifen saith oed, mae un o’r plant wedi sgwennu ‘MAM ORAU’R BYD’ mewn gwaedd o briflythrennau powld, a dwi’n gwenu ar fy nheitl anrhydeddus, yn gobeithio na fydd y ddau yma byth yn sylwi ffasiwn gelwydd ydi hynny.

Achos ti oedd y gorau.