Sai’n credu bod ’na unrhyw beth am Brydain ydw i’n gallu amgyffred yn llai na’r frenhiniaeth. Dyw e’n neud dim sens i fi o gwbwl.

Yn un peth, alla’i ddim wir meddwl amdanyn nhw heb fynd yn wyllt gacwn – so dw i’n trïo peidio. Dw i’n ffindo bo’ bron pawb dw i’n nabod – yn Saeson ac yn Gymry – yn cytuno ’da fi amdanyn nhw i raddau, so dyw e erioed ’di bod yn destun rhyw ddadl fawr.