Dwi’n licio cyfresi comedi. Wedi’r cyfan, pwy sydd ddim yn licio chwerthin? Ond er bod llawer iawn ohonynt yn annwyl imi, mae yna ddau sydd wastad yn curo’r lleill: Bottom a Gimme, Gimme, Gimme. Mae hi dros ugain mlynedd ers pennod gyntaf yr ail, a 30 ers y llall. Am wn i, maen nhw’n hen erbyn hyn.