“Mae rhai merched yn cymharu’r boen â rhoi genedigaeth,” ydi, o bosib, y peth gwaethaf all rhywun ei ddweud wrth ddyn. Ac nid dyna’r geiriau yr oeddwn i isio’u clywed gan y llawfeddyg awr cyn iddi roi’r gyllell ynof. Doedd y ffaith mai dyma fyddai, gobeithio, benllanw cyfnod maith o arosiadau ysbyty, yn golygu fawr ddim y foment honno. Aeth hi drwy fy meddwl i ddianc, i osgoi’r holl beth.