Mae’r cyn-gynhyrchydd teledu wedi bod yn crafu am rywbeth i’w wylio ym mis Chwefror…

Dw i newydd orffen gwylio Industry (iPlayer) o’r diwedd, a dw i ddim yn meddwl y byddwn wedi trafferthu oni bai iddi fod yn fis mor dlawd am ddrama. Doedd dim byd yn ffres nac yn newydd ynddi – roedd yn f’atgoffa o nofelau cynnar John Grisham yn llawn associates ifanc yn gweithio oriau hirfaith i geisio cael dyrchafiad (neu swydd barhaol yn achos Industry). Mae mwynhad o’r gyfres hon yn dibynnu ar p’un a ydych chi’n hoffi’r cymeriadau ac eisiau gwybod beth sy’n digwydd iddyn nhw: fyddan nhw’n mabwysiadu diwylliant a moesau’r gweithle a’u mentoriaid, neu’n eu gwrthod? Chynhesais i ddim at neb. Efallai y byddwch/eich bod wedi gweld y cymeriadau’n fwy diddorol na wnes i.

Ar ôl darllen canmoliaeth o’r gyfres fer o Ffrainc, Lupin (Netflix), mi rois gynnig arni ac eitha mwynhau… ond dydy hi ddim wedi gafael yndda’i. Tua diwedd pob pennod, rydan ni’n gweld sut mae Assane Diop (y prif gymeriad) wedi dwyn mwclis/dianc o’r carchar etc, mewn ffordd gafodd ei ysbrydoli gan anturiaethau Arsène Lupin – sef cymeriad mewn straeon/nofelau sy’n debyg i rai am Raffles/Sherlock Holmes/y Scarlet Pimpernel yn Saesneg.

Mae’r gyfres yn diddanu, ond ddim yn must watch. Mae gen i ddwy bennod ar ôl a dydw i ddim ar frys i’w gwylio. Falle oherwydd nad ydy’r triciau yn ymddangos mor syfrdanol a chlyfar â hynny, am fod y straeon dros 100 oed a’n bod i gyd wedi gweld fersiynau o driciau Lupin mewn lleoedd eraill dros y blynyddoedd? Er enghraifft, mae un gyfres o olygfeydd efo beicwyr (tebyg i rai Deliveroo), yn chwarae’r un rhan â’r hetiau bowler yn fersiwn Pierce Brosnan a Rene Russo o The Thomas Crown Affair (ond heb Nina Simone yn canu ‘Sinnerman’).

Cyflafan mewn coedwig

Barbaren

Hefyd ar Netflix dw i wedi gwylio Barbaren, cyfres o’r Almaen yn dweud hanes y gyflafan yng nghoedwig Teutoberg lle collodd Rhufain dair lleng mewn brwydr yn erbyn llwythau’r Almaen o dan eu harweinydd Arminius yn 9 O.C. Mae’r gyfres yn iawn o’i math, ond yn rhy llawn o ‘Ymddygiad Barbariaid 101’ gen i – taro’u tariannau ar eu brestiau a gweiddi. Lot. Wn i ddim be’ mae cyfarwyddwyr yn trio’i wneud, efelychu cefnogwyr pêl-droed Gwlad yr Iâ ynteu copïo dechrau Gladiator (wnaeth fenthyg sŵn y frwydr agoriadol o Zulu), ond stopiwch, plîs!

Mae gormod o olygfeydd am helyntion carwriaethol Thusnelda (gwraig go-iawn Arminius) a dydy’r frwydr ei hun yn ddim ond rhan o’r bennod olaf, ac yn llawer rhy syml o ystyried bod y frwydr go-iawn wedi parau tridiau a chyfro tua 60km. O’n i yn hoffi bod y Rhufeiniaid yn siarad Lladin, ac os ydach chi, fel fi, yn ffond o bethau allan o’r cyffredin, jest am eu bod nhw’n wahanol a heb boeni am unrhyw rinweddau eraill, mae yna ffilm weddol o’r Eidal (Il Primo Re) am hanes Romulus a Remus ar Netflix, a’r ddeialog i gyd mewn Lladin cynnar.

Ar yr un trywydd, dw i wedi gwylio dwy bennod o Magi ar Prime. Hanes offeiriad Jeswit o genhadaeth Portiwgal yn Nagasaki yn anfon glaslanciau o Siapan (tri ohonynt yn Gristnogion ac un ddim) i’r Fatican yn y 1580au. Y gobaith oedd eu cyflwyno fel y Doethion a chael y Pab i roi pentwr o bres i’r genhadaeth i Siapan ac i ddangos gwledydd ‘modern’ y Gorllewin i’r Siapaneaid. Erbyn diwedd yr ail bennod, mae un eisiau troi’n ôl ar ôl gweld rhagrith Cristnogion dros gaethwasiaeth. Dw i’n meddwl mai troi’n ôl wnaf innau cyn cyrraedd diwedd y daith achos dydy’r actio na’r ddeialog, mewn Siapaneg na Saesneg, ddim yn argyhoeddi. Joban i Wicipedia dw i’n meddwl – stori ddiddorol ond cyfres glogyrnaidd. Ond dw i’n ddiolchgar am gael dysgu rhywbeth pwysig yn y bennod gyntaf: mae hi’n amhosib edrych yn arwrol (hyd yn oed pan ydach chi’n bod yn arwrol) wrth redeg i lawr llethr gwelltog mewn fflip-fflops a sanau.

Goleuni ar y gorwel?

Yng nghanol y diffeithwch dramâu, dw i wedi cael diferion o ddiddanwch drwy wylio The Head (Starzplay). Dw i’n dweud diferion achos mae’r gyfres yn cael ei rhyddhau’n hen ffash o araf, pennod fesul wythnos. Dirgelwch ‘drws tan glo’ clasurol sydd yma, efo 10 unigolyn yn cael eu gadael i ofalu am orsaf ymchwil yn yr Antarctig gydol tywyllwch hir y gaeaf, a phan ddaw’r gwanwyn does dim golwg o neb – i ddechrau. Mae rhai elfennau’n gyffredin rhyngddi â The Terror, a fydd yn cael ei darlledu ar BBC 2 cyn hir. Mi wnes i argymell The Terror yn fy ngholofn gyntaf, ac os na welsoch chi hi cyn hyn, dyma’ch cyfle. Mae’n arbennig.

O ran The Head, mae’n difyrru ac yn damaid i aros pryd derbyniol tan ddaw Line of Duty i’n hachub, pryd y byddwn i gyd yn eistedd ar ein soffas yn syllu ar y credydau agoriadol fel roedd cast Ice Cold in Alex yn edrych ar eu cwrw.