Cenhinen Bedr ar lapel fy nghôt, ei phen yn gwyro’n is ac yn is wrth i’r bore droi’n brynhawn ac yna’n nos. Cacenni cri o’r becws, am nad oes gen i’r amser na’r amynedd na’r gallu i wneud rhai cystal fy hun. Cawl cennin, er mai pizza dwi isio mewn gwirionedd. Mae’n Ddydd Gŵyl Dewi, ac mae’n edrych yn debyg mai’r pethau hyn yw’r arwyddion o Gymreictod.

Dwi’n gwybod nad yw hynny’n wir.