Ac felly cafwyd wythnos arall o Twitter yn twlu twpdra Prydeinig yn ein gwynebau. Ro’dd ’na gyfnod pan o’n i wrth fy modd yn gloddesta yn y gwiriondeb – yn neud jôcs, yn chwerthin ar ben yr anwybodaeth. Ond ma’ raid ifi gyfadde bo’ fi bach yn bored o’r holl beth nawr. Dim ond hyn a hyn o gymryd y mic mas o’r un hen bethe allwch chi neud cyn bo chi’n teimlo bo’ angen symud mlân, s’bosib?