Yn ddiweddar, mae hi’n teimlo fel Wythnos Ryngwladol y Rhywbeth bob dydd.

Tu hwnt i ddiwrnod Sant Ffolant a’r flwyddyn newydd Tsieneaidd, dros y dyddiau dwetha dw i wedi dathlu Mis Hanes LGBT+, Diwrnod Menywod Mewn STEM, Dydd Mawrth Ynyd – a dw i’n edrych ymlaen yn eiddgar at Wythnos Bara Go Iawn, Diwrnod Radio’r Byd a ‘Cook a Sweet Potato Day’ (22ain o Chwefror, i’r rhai sydd am ddathlu gyda fi).