“Ffaith” sy’n hoffi cael ei hadrodd yn bur aml am y Gymraeg ydi bod y gagendor rhwng yr iaith lafar a’r iaith ysgrifenedig yn un unigryw o fawr yn Ewrop. Mae yna, wrth gwrs, wirionedd yn hyn. Ar wahân i’r diweddar John Davies, alla’ i ddim meddwl am unrhyw un sy’n siarad Cymraeg ysgrifenedig. Canlyniad hyn ydi dadlau cyson rhwng dwy garfan gydradd ddiflas – y rhai sy’n mynnu cywirdeb ieithyddol llwyr ac yn gwylltio ar y camgymeriadau lleiaf a thynnu sylw atynt yn ddi-baid, a’r rhai sy’n lluchio