Ymhen ychydig tros fis, os na fydd y pandemig yn gwaethygu, mi fydd Cyfrifiad 2021 yn digwydd yng Nghymru a Lloegr.

Mae yna rai’n galw am ei ohirio am flwyddyn, fel yn yr Alban, ond mae’n well i ni gael y newyddion drwg o’r neilltu’n gynt.

Mae’n ddigon posib y bydd y ffigurau, pan ddôn nhw, yn dangos cynnydd yn nifer y rhai sy’n gallu siarad Cymraeg ymhlith plant a phobol ifanc yr ysgolion dwyieithog, ond mi fydd y newyddion fel arall yn ddifrifol.