Ryw bum mlynedd yn ôl oedd hi, dw i’n meddwl, mewn ystafell ddysgu ar gampws Prifysgol Abertawe.

Gweithio oeddwn i gyda chriw o fyfyrwyr oedd yn dilyn eu cwrs prifysgol, neu ran ohono, drwy gyfrwng y Gymraeg, ac roedd hi’n sesiwn agored i fyfyrwyr y Flwyddyn Gyntaf.

Doedd yna ddim cofrestr, nac awgrym pwy fyddai’n dod.