Doeddwn i ddim yn ffan o feiciau trydanol. Roeddwn i yn dychmygu llwybrau mynydd yn llawn pobl yn mynd am sbin, yn cael eu gwthio gan foduron mawr o dan eu seti. Yn fy meddwl i, yr holl bwrpas o feicio oedd teithio heb fod angen ffynhonnell arall o ynni er mwyn symud.