Daeth Siôn i arfer yn y diwedd. O’r blaen, roedd tawelwch ei dŷ yn beth byw, trwchus, a fyddai’n bygwth ei fygu gyda phwysau absenoldeb unrhyw dwrw. O’r blaen, byddai sŵn y pibellau dŵr yn ffrwtian neu’r gwres canolog yn clicio yn y boiler yn ddigon amdano, bron – y synau bach yma oedd mor uchel mewn tŷ mor wag. Ond daeth Siôn i arfer. Dechreuodd gadw’r radio ymlaen drwy’r amser er mwyn cael clywed y lleisiau, ac yn y bore bach ac ynghanol nos, pan fyddai’r tawelwch ar ei fwyaf milain, gofynnai’n glên i Alexa am gwmni ryw gân. Daeth o hyd i ffyrdd bach o ymdopi gyda’r unigrwydd. Roedd o’n iawn.

Ystyriodd brynu cerdyn San Ffolant iddi.

Dim ond ystyried, a ddim o ddifri. Gwyddai na fyddai o byth yn gwneud go-iawn, daeth y syniad i’w ben ryw fore Sul wrth iddo roi ei ddillad yn y peiriant golchi, a gweld yr un hosan roedd hi wedi ei gadael yma yn dal ar y silff yn ymyl y powdr golchi a’r Vanish. Fe ddylai o daflu’r hosan, mae’n siŵr, ond roedd rhywbeth am ei natur gyffredin, bob dydd oedd yn ei wneud o’n anodd. Doedd o ddim yr un fath â’r crysau y prynodd hi iddo, neu’r llun a gafodd o’n anrheg ’Dolig ganddi oedd ar wal y gegin fach – roedd hosan yn rhyfeddol o bersonol. Gallai Siôn ddychmygu ei llais yn gofyn, mewn rhuthr, fore dydd Llun a hithau wedi codi’n hwyr: ‘Wyt ti ’di gweld ‘yn hosan i? Ga’i fenthyg dy sana’ di?’

Fyddai ganddo ddim syniad beth i’w sgwennu mewn cerdyn San Ffolant. Gwyddai nad oedd geiriau yn ddigon i’w denu hi’n ôl yma bellach, ac y byddai Siôn wastad yn clywed rhyw dawelwch rhwng y waliau yma, yn absenoldeb ei llais hi. Weithiau, byddai Siôn yn gwneud ymgais ar drïo ffurfio brawddeg a allasai ’sgwennu’n daclus o fewn cerdyn calonnog, hardd. Dwi ’di bod yn meddwl…Dwi’n hiraethu am… Isio i ti wybod ’mod i’n dal i… Ond gwyddai Siôn yn iawn beth fyddai ei hymateb. Roedd ei llais hi’n dal yn ei ben, fel ysbryd, fel cydwybod. Yr holl gardiau na wnaeth o ddanfon pan oedd ganddo’r hawl i wneud. Yr holl ddiolchiadau na wnaeth o drafferthu eu dweud. Y gweithredoedd mawrion a bychain y byddai Siôn yn eu gwneud, rŵan ei fod o’n gorfod byw gyda’r distawrwydd yma.

Yr holl garu roedd ganddo’r gallu i’w wneud, ond yn methu.