Os oes ’na un job licen i ddim ei gwneud, dw i’n credu mai comms ym maes gwleidyddiaeth fydde honno. Hynny yw, swyddog cyfathrebu i wleidyddion. Mae Malcolm Tucker o The Thick of It yn ddarlun perffaith o’r fath swydd: gweithio’n galed, neud pethe’n iawn, a chael popeth yn mynd yn ffradach oherwydd camgymeriad gan rywun arall – eich bòs, fel arfer.