Mae gwleidyddion sy’n dechrau addo llacio ar y cyfyngiadau Covid, yn gwneud i fi deimlo’n nerfus. Rydan ni wedi bod yma o’r blaen.

Rhyw hanner addewid oedd un diweddara’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, ond roedd yn ddigon i achosi anesmwythyd.

Mae peryg fod addewidion o’r fath yn cael effaith anfwriadol, anuniongyrchol, trwy wneud i ni feddwl bod pethau wedi gwella ddigon i ollwng ychydig ar y rhwyfau.