Parhau y mae’r sgrifennu o blaid annibyniaeth. Yr wythnos yma y targed yw pobol ar y chwith sy’n cefnogi’r Undeb. Dyma ddadl Arwyn Lloyd…

“Does gyda ni ddim system arian sofran. Does gyda ni ddim hawl i gyhoeddi bondiau, i argraffu arian, na gweithredu grymoedd cyllidol/economaidd arferol y Wladwriaeth. Ac eto, maen nhw’n dweud ein bod ni’n gwneud colled. Na, dydyn ni ddim, mae colled yn cael ei gwneud yn ein henw ni. Nid cydsefyll yw hyn. Rheolaeth yw hyn. Mae’r Deyrnas Unedig yn cynnal colled ar ein rhan a, thrwy ddiffyg gwario cyfalaf, yn ein gadael efo lefel cynhyrchiant sy’n 70% o’r cyfartaledd yn y Deyrnas Unedig.” (nation.cymru)

Rhywbeth tebyg ydi trywydd John Dixon wrth drafod awgrym gan grŵp o aelodau Llafur am gael ‘ffederaliaeth radical’ a fyddai’n cynnal yr Undeb…

“Mae’r manylion ynghylch pa rymoedd fyddai ymhle yn dangos mai awgrym yw hwn mewn gwirionedd i ddadwneud rhai elfennau o ddatganoli a rhoi grymoedd allweddol yn ôl i San Steffan… o dan y cynigion ‘radical’ yn yr adroddiad yma, er eu bod yn dweud y byddai… seneddau ‘cenhedloedd hanesyddol y Deyrnas Unedig’ yn ‘gyfrifol am eu heconomïau, eu hisadeiledd ac iechyd a lles eu poblogaethau,’ chaen nhw ddim ond ymarfer y grymoedd hynny yng nghyd-destun lefel sylfaenol o safonau ar gyfer ‘iechyd, lles cymdeithasol, hawliau dynol, addysg a thai ledled y Deyrnas Unedig’… mewn gwirionedd, maen nhw’n awgrymu y dylai Lloegr osod y safonau gyda’r llywodraethau eraill yn gorfod dilyn.” (borthlas.blogspot.com)

Ac, o sôn am les, roedd llefarydd ar ran y mudiad Food Sense yn tynnu sylw at faes lle mae safonau Cymru yn is na gweddill y gwledydd…

“…mae’r Grŵp Gweithredu tros Dlodi Plant (CPAG) wedi sylweddoli mai gan Gymru y mae’r ddarpariaeth leia’ hael ar gyfer prydau ysgol am ddim trwy’r Deyrnas Unedig. Mae plant sy’n cael eu magu mewn tlodi yng Nghymru yn llai tebyg o gael pryd ysgol am ddim na phlant sy’n tyfu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon am fod gan Gymru brawf modd tynnach a darpariaeth gyffredinol llai hael i blant bach. O ganlyniad, mae’r ddau bolisi yma’n golygu bod llawer mwy o rieni a gofalwyr mewn swyddi cyflog-bach yng Nghymru yn methu â chael prydau ysgol am ddim i’w plant. Mae llawer o deuluoedd yn cael cefnogaeth yn ystod y tymor a’r gwyliau ond mae llawer eraill yn colli’n llwyr. Yn colli brecwast ysgol am ddim (oherwydd Covid); prydau ysgol am ddim (oherwydd cymhwyster) a phob math o ddarpariaeth tros y gwyliau.” (Katie Palmer ar nation.cymru)

Ond, yn ôl at annibyniaeth, a Royston Jones yn cofnodi diwedd un o straeon mawr Cymru yn y 1960au ac un o’r dynion a ddefnyddiodd drais dros yr achos hwnnw…

“…fues i yng nghynhebrwng y gwladgarwr mawr John Barnard Jenkins… Am resymau amlwg, doedd dim llawer o bobol yno, dim ond y teulu ac ychydig edmygwyr teyrngar. Gan fy nghynnwys i. Mewn gwirionedd, dw i’n credu mai fi oedd yr unig un yno o genhedlaeth yr 1960au. Er bod y teulu wedi gofyn am beidio â chael torchau, wrth i fi adael yr amlosgfa allwn i ddim peidio â sylwi ar dorch fechan yn pwyso yn erbyn wal. Mae’r cerdyn, gyda baner Owain ap Gruffydd Fychan, Glyndŵr, yn dweud:

‘I John Barnard Jenkins (MAC) [Mudiad Amddiffyn Cymru], gyda’n parch mwyaf, edmygedd ddi-ildio a theyrngarwch llwyr,’ Grŵp Medi 16″. (jacothenorth.net.blog)