Un peth cyson sydd wedi bod yn codi nghalon trwy’r cyfnodau clo yw apwyntiad arbennig ar foreau penwythnos – oedfa liwgar, amgen, RuPaul’s Drag Race.

Mae’n achlysur cymdeithasol dros zoom, ac yn torri ar draws boreau llwm y pandemig – a’r peth agosa y galla i gael at fynd i glwb hoyw i ddawnsio heb adael y tŷ. Mae’r gyfres, sydd nawr yn ffenomenon fyd-eang, yn un o elfennau mwyaf hygyrch diwylliant queer, sydd wedi troi drag o rywbeth ymylol i ddiwydiant enfawr, sydd yn magu cynulleidfa anferth tu hwnt i lwyfannau clybiau traddodiadol.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae brenhines o Gymru yn ymddangos ar y rhaglen, sy’n gystadleuaeth i arddangos doniau drag o bob math – canu, dawnsio, comedi, gymnasteg, dynwared, actio (ac o dro i dro, neud y splits). Yn wir, y llynedd, enillydd y gystadleuaeth oedd The Vivienne, a aned ym Mae Colwyn – brenhines sy’n enwog am ei dynwarediadau rhyfeddol a’i thafod finiog. Eleni mae Tayce, brenhines o Gasnewydd yn cynrychioli Cymru – yn ymddangos mewn gŵn bluog goch, gwyn a gwyrdd, a draig lachar arni, ei gwallt wedi’i droelli yn gyrn pigog ffyrnig. Efallai nad yw pasiant drag yn ymddangos fel y peth mwya traddodiadol Gymreig, ond mae gwreiddiau ‘Drag Race’ yn perthyn i Gymru hefyd.

S’dim rhyfedd bo’ ni’r Cymry yn gwneud yn o-lew ar y rhaglen – achos beth yw rhaglen dalent ‘realiti’ yn y bôn, ’blaw cyfres estynedig o ragbrofion? Cyfres o sialensau bychain yn rhoi cyfle i gystadleuwyr ddangos eu sgiliau, cyn iddyn nhw fentro ar y llwyfan yn eu dillad gorau a derbyn beirniadaeth. Wrth gwrs, yn yr achos yma, RuPaul yw’r beirniad, meistres y seremoni a’r gwisgoedd mewn un, yn sefyll dros saith troedfedd o daldra mewn heels a wig.

Sialens yr wythnos hon oedd ymddangos mewn drag wedi’i ysbrydoli gan eiconau hoyw lleol – a’r cystadleuwyr yn trafod y ffigyrau sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth yn ystod eu gyrfa. Llifodd ein sgwrs yn naturiol at eiconau camp Cymreig – ac wedi cyfnod o grafu pen, dyma ddechrau meddwl am y arwyr amgen a ddylanwadodd, yn ddiarwybod, ar fy hunaniaeth queer innau.

Mae gen i atgofion melys o gyfareddu ar glamour Margaret Williams yn ei chadair fawr ysblennydd; dwi’n cofio edmygu dycnwch y menywod tu ol i’r bar ar Pobol y Cwm; a joio anturiaethau tomboys anystywallt fel Wini Ffini Hadog a Jini Me Jones. Tu hwnt i hynny, tyfu fyny adeg (ahem) troad y ganrif, ble oedd drag yn reit gyffredin mewn adloniant ysgafn ar S4C – hyd’noed os oedd llai o grisialau swarovski ar ffrogiau Gari Williams a Mrs OTT nag sydd gan Tayce ar ei gwisgoedd crand heddiw.

Mae drag wedi dod yn bell iawn o ddyddiau Widow Twanky, ond mae ysbryd cellweirus yn dal yn rhan bwysig ohono. Mewn cyfnod ble mae cymaint yn teimlo mor ddyrys a difrifol, mae drag yn ein hannog i ddychan y rhai sy’n bropor, y rhai sydd mewn grym – ac yn ein hatgoffa yn y ffordd fwya lliwgar posib, bod dyddiau llai llwyd o’n blaenau.