Pan gyrhaeddodd y feirws yr ynysoedd hyn bron flwyddyn yn ôl, fe fydden ni wedi arswydo o feddwl y gallai 100,000 a mwy o bobl fod wedi colli eu bywydau iddo. Ond erbyn iddo ddigwydd roedd teimlad anochel amdano, i’r graddau na chafodd y peth y sylw yr haeddai. Can mil o bobl. Mae hynny’n fwy o bobl nag sy’n byw yn saith o 22 o siroedd Cymru.