Dydw i ddim yn hoffi meddwl am Brexit. Ond yn y cyfnod newydd yma, mae yn rhaid i ni edrych ar sut bydd pêl-droed yn cael ei effeithio dros y blynyddoedd nesaf. Does yna ddim rhyddid i deithio a gweithio ar draws Ewrop, bellach, felly mae’r llywodraeth (efallai mewn cydweithrediad gyda’r bobol wnaeth greu’r gêm Football Manager!?), wedi creu system newydd ar gyfer trosglwyddo chwaraewyr.