Dw i’n ymwybodol bod lot o bethau dwys yn mynd ymlaen yn y byd sydd yn hala pawb yn nerfus, felly dw i wedi penderfynu ysgrifennu am dwrci. Dw i’n byw rhyw ddeg munud i ffwrdd o’r ‘Robin Hood’, tafarn annibynnol sy’n agos at fy nghalon. Fel sawl busnes bychan tebyg, mae Covid wedi bod yn glowten a hanner. Roeddwn i am ddangos cefnogaeth ac felly pan glywais fod Paul, y perchennog, wedi prynu sawl ‘coron’ twrci ar gyfer y Nadolig mond iddo orfod cau’r drysau ychydig ddyddiau cyn yr Ŵyl, mi bender