Daeth nodyn i fy nghyfrif Twitter wythnos ddiwethaf yn fy hysbysu ’mod i’n dathlu ’mhen-blwydd ar y safle, wedi bod yn aelod ers deng mlynedd yn union.

Mae’r cwmni’n anfon negeseuon o’r fath yn awtomatig at ddefnyddwyr pan fo’r cerrig milltir mawr ’ma yn cael eu taro.

Ac fe wnaeth i fi ddechrau meddwl…

Am yr oriau dwi wedi eu treulio dros y degawd hwnnw’n darllen ac yn ysgrifennu trydariadau…

Am y bobl dwi wedi dod i’w hadnabod, yn rhithiol gan mwyaf rhaid cyfaddef, drwy Twitter…