Heddiw, rydw i am dorri fy addunedau blwyddyn newydd.

Fe fydd o’n teimlo fel sgidiau cerdded yn torri drwy haen o rew ar ben pwll bach bas – crenshan pleserus dan draed, a difrodi’r cyfan cyn i neb arall gael y cyfle. Fi fel arf yn erbyn y pethau delicet, cain yma sy’n siŵr o doddi’n slwj yn y diwedd p’run bynnag. Cyn bod f’addewidion i mi fy hun yn bythefnos oed, rydw i am eu chwalu nhw, yn fendigedig o fwriadol yn fy nghamwedd.

Dim alcohol ym mis Ionawr. Dyna’r cyntaf i fynd. G&T fin nos, un mawr, y gwydr yn clecian efo rhew, tafell o leim sydd wedi eistedd yn y bowlen ffrwythau’n rhy hir yn arnofio’n bowld o lachar yn y diod.

Ar ôl cymryd un sip hir, hamddenol o’m diod, bydda i’n ymestyn am y cynhwysion gwaharddiedig. Wyau, blawd codi, siwgr, menyn, powdr siocled. Bydd y goleuni o’r popty yn teimlo fel y gwanwyn ar ei ffordd, a bydd y broses o wneud y gacen yn ddefod gysurlon. Cymysgu’r menyn a’r siwgr tan eu bod nhw’n feddal fel cyffyrddiad ryw gariad o amser maith yn ôl. Cracio’r wyau, a mwynhau’r teimlad o dorri pelen y melynwy gyda’r llwy. Ychwanegu’r blawd codi, sy’n codi fel ysbryd yr holl gacenni y gwnes i bobol eraill ar hyd f’oes.

Wrth i mi orffen fy G&T a golchi’r llestri, bydd arogl methiant fy adduned yn llenwi’r tŷ yn gynnes ac yn felys.

Bwyta’n iach. Fe wna i eistedd wrth fwrdd y gegin ar fy mhen fy hun, tafell enfawr o’r gacen siocled o fy mlaen, a bydd pob cegiad yn blasu fel rhyddid.

Ar ôl llenwi fy mol, bydd y teclyn bach ar fy ngarddwrn yn canu ei larwm cwynfanus i f’atgoffa i mai dim ond 794 cam y cerddais i heddiw. Bydd y rheiny’n bennaf yn gamau rhwng y cyfrifiadur a’r tegell, un trip i roi’r bin allan yn barod am y lori ludw ’fory. Gallwn i fynd am dro yn y tywyllwch, wrth gwrs (efallai y byddai’n fwy o antur ar ôl jin a chacen siocled.) Ond…

O leiaf 10,000 o gamau bob dydd. Bydda i’n cymryd y saith cam o’r gegin i’r soffa, ac yn troi’r teledu ymlaen i weld beth sydd ar Netflix.

Gwna rhywbeth caredig i rywun bob dydd. Rhywun. Fi. Bydda i’n cyrlio ar y soffa heno, yn meddwl gymaint gwell ydi canol Ionawr na’i ddechrau un.