Portread o Alaw Haf

Mae Alaw Haf yn Gymraes i’r carn sy’n ennill ei bara menyn yn rhannu lluniau o’i hun ar y We.

Mae miloedd yn dilyn y fodel 4’11” ar ei chyfrifon Twitter, Instagram a TikTok; ond y platfform pwysicaf iddi, heb os, yw OnlyFans – gwefan rhannu cynnwys i danysgrifwyr.

Trwy’r wefan honno mae’r ferch o’r Wyddgrug sydd â gradd yn y Gyfraith yn rhannu lluniau ecsgliwsif o’i hun mewn dillad isaf, ac mae’n rhaid talu er mwyn cael mynediad atyn nhw.

Er bod rhai merched yn rhannu lluniau noeth a fideos rhywiol eu naws, mae Alaw Haf yn ystyried ei hun yn “quite tame o gymharu â lot o genod” am nad yw hi’n gwneud hynny.

Pan siaradodd â Golwg yn ddiweddar roedd ganddi 208 o danysgrifwyr ar ei safle OnlyFans, gyda phob un yn talu $14 (tua £10) y mis er mwyn gweld ei chynnwys. Mae hynny’n golygu dros £2,000 o gelc misol.

Ond mae’r nifer sy’n tanysgrifio yn mynd fyny a lawr, meddai, gan roi pwysau arni i greu cynnwys cyson sydd o safon uchel.

Ymhlith ei dilynwyr mae yna bobol o Awstralia a’r Almaen, ond Cymry yw ei ffans gan fwyaf, ac mae’n jocian bod yna bobol ddigon rhyfedd yn eu plith.

“Dw i’n cael lot o bobol o Gymru,” meddai’r ferch sy’n cael tynnu ei llun yn gwisgo crysau pêl-droed ei gwlad.

“O’r blaen wnaeth rhywun message­-io fi’n deud: ‘You are the kinkiest thing I’ve seen on S4C’!”

Mae wedi ymddangos ar Hansh – sef platfform rhaglenni S4C i bobol ifanc – sawl gwaith yn y gorffennol, ac mae’n rhaid bod ei ffan eiddgar wedi bod yn gwylio.

“Dw i wedi cael pobol yn message-io fi yn gofyn am fideo o fi jest yn siarad Cymraeg… a dw i wedi cael stwff really weird o’r blaen – really weird!

“Wnaeth rhywun ofyn i fi yn ddiweddar os oedd gen i luniau o fi yn gwisgo cast. Dw i bach yn naïf am bethau fel’na. Roedd o efo cast fetish. A dw i byth wedi clywed am hwnna o’r blaen.”

Yn 18 fe ddechreuodd Alaw Haf fodelu dillad isaf a dillad nofio. Yn ddiweddarach, dechreuodd rannu ei phortffolio ar-lein a chafodd ei hannog i roi cynnig ar OnlyFans.

“Ro’n i fatha: ‘Oh my gosh, na! Dyna beth mae genod sy’n gwneud stwff x-rated yn wneud. Dw i ddim yn twtsio hwnna’,” meddai.

“Ac wedyn ro’n i’n gweld pobol yn gwneud meal preps a cooking videos arna fo. A wnes i sylwi bod modd gwneud unrhyw beth. Wnes i roi cynnig arni, ac yna dechreuais i wneud arian.”

Ar ôl gorffen ei gradd yn y Gyfraith yn y brifysgol, penderfynodd fwrw ati a chreu cyfrif OnlyFans.

Nid yw Alaw Haf yn celu ei gwaith rhag ei theulu na’i ffrindiau, ac mae’n dweud eu bod nhw yn hynod gefnogol o’r cyfan.

“Mae ffrindiau fi’n fine amdana fo. Maen nhw o hyd yn cynnig helpu efo’r llunia,” meddai. “Pan dw i wedi bod ar wyliau efo ffrindiau fi yn y gorffennol, maen nhw wedi cynnig tynnu bikini pics i roi fyny.

“Mae’r teulu wedi bod yn fine. Dydy pawb dal ddim yn deall yr holl beth.

“Mae’n edrych iddyn nhw bo fi jest yn eistedd adra trwy’r amser. Bo fi ddim yn mynd i gwaith a bo fi jest yn mynd i photoshoot unwaith yr wythnos.

“Mae’n anodd esbonio fo. Ond maen nhw’n dweud: ‘Os mai dyna ti eisiau gwneud, dyna ti eisiau gwneud’… Maen nhw’n chwerthin amdano fo really.

“Mae pobol yn gofyn i fi: ‘Beth wyt ti’n ei wneud am waith?’ A dw i yna fel: ‘O, dw i jest yn sefyll yn underwear fi basically!’

“Dw i wedi cymryd o efo bach o pinch of salt achos dw i wedi cael loads o comments o’r blaen gan trolls a stwff. Dw i jest yn trio cymryd o’n fwy positif rŵan.”

Bellach yn 23 oed, mae’r fodel yn anobeithio pob hyn a hyn am fod pobol yn cymryd yn ganiataol bod ei gwaith yn hawdd.

Hi sydd yn trefnu’r sesiynau tynnu lluniau, yn uwch-lwytho’r cynnwys, yn ei olygu, ac yn ei farchnata.

Ac yn aml mae’n gorfod ail-fuddsoddi ei harian ar gyfer creu rhagor o gynnwys – prynu dillad isaf swanc, talu am y sesiynau tynnu lluniau, costau teithio, ac ati.

“Mae’n anodd achos yr arian sy’n dod allan ohono fo ydy be ti’n rhoid i fewn,” meddai. “Os dw i ddim yn gwneud y shoots a stwff, dw i ddim yn mynd i gael y subscribers.

“Felly os dw i’n colli motivation a ddim yn gwneud dim byd, mae pobol yn mynd i ddweud bod nhw ddim eisiau subscribe-io mis nesa’. Ac wedyn straight away dw i wedi colli £10.”

Mae Alaw Haf yn byw gartref gyda’i mam, ei thad, a’i chwaer. A chyn y covid roedd hi’n gweithio mewn campfa.

Yn ogystal â’i gwaith modelu, mae ganddi fusnes sy’n gwerthu “gym supplements” – protein ac ati – ac mae’n gobeithio dilyn gyrfa ym myd busnes.

“Dw i’n gwybod bod [y modelu] ddim yn rhywbeth fedra i wneud am byth,” meddai. “Obviously wrinkles come and all that.

“Dw i’n trio mynd mewn i property a dw i’n trio cael tŷ cyntaf i wneud fyny, ac wedyn gwerthu hwnna. Dyna ydy’r aim nesa’.

“Ond ar y funud dw i ddim yn siŵr pryd wneith hynna ddigwydd achos covid.”