Bron flwyddyn union yn ôl i heddiw, ro’n i ar bigau’r drain. Ar ôl ffilmio bob awr, ar hyd a lled Cymru – roedd Waliau’n Siarad ar fin cael ei ddangos ar S4C. Fy ‘job iawn’ gyntaf fel cyflwynydd teledu. Ro’n i wrth fy modd yn archwilio adeiladau, yn cyfweld, ac yn gweithio gyda thîm teledu ‘go-iawn’. Ond roedd un peth yn fy mhoeni, ac yn draenio’r pleser allan o lansio cyfres. Un peth yn pigo yng nghefn fy meddwl – doeddwn i ddim yn edrych fel cyflwynydd.

Dw i ddim am roi farnish ar y peth: dw i’n dew.

Dw i hefyd, gan amlaf, yn gyfforddus iawn efo hyn.

Mae casáu dy gorff yn ffurf arbennig o hunan-artaith, un sy’n amhosibl i ddianc rhagddo – a’r adeg yma o’r flwyddyn gwna sawl un elw mawr ohono. Mae wastad yn werth cofio, er enghraifft, fod y cwmni sydd yn cynhyrchu Slim Fast hefyd yn berchen ar Ben and Jerry’s. Os mai ‘methu’ neu ‘lwyddo’ ar ein Deiet Blwyddyn Newydd ydyn ni, bydd y diwydiant colli pwysau – sydd werth tua £2 biliwn y flwyddyn ym Mhrydain – ar ei ennill. Does dim diwrnod yn mynd heibio heb i mi weld hysbyseb sy’n ein hannog i graffu dros pob crych a rôl – ac yn cynnig datrys y broblem gyda thabled, ffisig, neu ddyfais sy’n edrych fel teclyn arteithiwr canol-oesol.

“Poeni am dy iechyd di ydw i!” – bydd pob un ohonom ni sy’n meddu ar fola meddal wedi clywed hyn. Yn aml, bydd y rhai sy’n defnyddio’r rhif ar y glorian fel mesur o iechyd yn anghofio’n reit sydyn am bwysigrwydd iechyd meddwl ac emosiynol. Mae hefyd yn rhwydd iawn anghofio bod deiet yn gallu bod ynghlwm â ffactorau cymhleth, gan gynnwys tlodi, all effeithio mynediad at nwyddau ffresh.

Dyw’r symiau sy’n creu’r rhif ar y glorian ddim yn syml – a dyw siâp corff ddim yn fesur cyflawn o’n hiechyd chwaith. Faint ohonom sy’n nabod pobl siâp llinyn trôns sy’n byw ar ffags a Tesco meal deals – ond fydd byth yn cael cyngor deiet gan bobl ddiarth ar y bws?

Cywilyddio pobl i golli pwysau

Ac i’r rhai sy’n credu bod annog pobl dew i deimlo’n gyfforddus a hapus yn ‘annog gordew-dra’: na phoenwch! – wnewch chi ddim ‘dal’ bloneg gen i, na neb arall. Mae bodoli mewn corff tew a bod yn hapus yn cael ei gyfleu yn y cyfryngau fel perygl cymdeithasol angeuol. Ac er bod astudiaethau niferus wedi dangos nad yw cywilyddio pobl i golli pwysau yn gweithio o gwbl, mae’r cywilyddio’n parhau. Yr hyn sy’n annog iechyd da, i bobl o bob maint? Meithrin hyder, iechyd meddwl da, gwella mynediad at fwyd ffresh, ac annog perthynas bositif gyda bwyd a’r corff.

O’r tu allan, efallai mod i’n fwy crwn a meddal yr olwg na llawer o fenywod a welwn ni ar y sgrîn. I lawer, dw i ddim yn bictiwr o iechyd – ond annoeth yw credu beth chi’n ei weld, heb edrych tu hwnt i’r wyneb.

Dw i’n beicio, dw i’n heicio, ac fel band elastig pan dw i’n neud ioga, a dw i’n giamstar ar godi pwysau. Ar ôl blynyddoedd o ddioddef gyda bwlimia, mi ydw i’n drymach nag y buais i erioed, ond dw i hefyd llawer iachach. Dw i ddim bellach yn ofn, yn llwgu’n bwrpasol, yn cuddio bwyd, neu’n bwyta ar ôl i bawb fynd i’r gwely oherwydd cywilydd. Mae bwyd nawr yn bleser, coginio yn hobi difyr, a rhannu pryd gyda rhywun agos yn achlysur i’w ddathlu.

Fe benderfynais i stopio aros tan fy mod i’n “ddigon tenau” cyn mynd ati i geisio gwireddu breuddwydion – boed yn gyflwyno rhaglen deledu, neu ddringo mynyddoedd serth ym mhellafion dwyrain Ewrop. Fe fyddwn i’n eich annog chi – beth bynnag eich siâp – i fynd amdani hefyd. Mi gymra i fola meddal dros y gwewyr o gasau fy nhorff, hyd’noed os yw’n golygu ambell i olwg gam, neu sylw cras ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dw i’n ddiolchgar am fy nghorff abl, tew, cryf. Fe gariodd fi trwy 2020 – blwyddyn drom os y buodd un erioed – a dw i’n addunedu i’w barchu drwy 2021.