‘Dwn i ddim sut y cofnodir 1 Ionawr 2021 yn hanes ein dyfodol.

Wrth imi ysgrifennu hyn mae’n ddiwrnod gaeafol braf. Mae’r haul yn llachar a’r awel yn fain. Ac er nad ydi cyrraedd blwyddyn arall eto fyth yn newid llawer, bydd gweld cefn 2020 yn rhyddhad. Dydw i erioed wedi bod yn un am addunedau i’r Flwyddyn Newydd, ond daw eleni â llawer o sylw i addewidion nad oedd modd eu cadw.