“Mae’r diwydiant dur wrth wraidd ein hunaniaeth genedlaethol ers cenedlaethau… mae’n bryd nawr i anrhydeddu’r cyfraniad.”

Geiriau dyn a gafodd ei fagu ym Mhort Talbot wrth glywed bod cwmni Tata o India wedi penderfynu gwerthu’i weithfeydd dur ym Mhrydain sy’n cynnwys safleoedd Trostre, Llanwern, Shotton, a Phort Talbot.

Un o’r bobol cynta’ i dryder ei ymateb i’r newyddion, oedd yr actor Michael Sheen.

“Steel industry hard hit by ’08 bank crisis. Hope as much support for steel industry and workers now they face time of greatest need.”

Dyna oedd ei neges ddiweddara’ i gefnogi gweithwyr a chymunedau’r ardal lle cafodd ei fagu. Pan dorrodd y newyddion ddechrau’r flwyddyn y byddai 1,000 o weithwyr, gan gynnwys 750 ym Mhort Talbot, yn colli eu gwaith, cafodd yr actor ei holi gan y cyfryngau Prydeinig.

Dair wythnos yn ôl, ac yntau’n ôl yng Nghymru, bu’n ymweld â rhai o’r gweithwyr dur er mwyn deall mwy am eu sefyllfa ac i gynnig ei gefnogaeth.

“Mae’r effaith y mae sylwadau gan Michael Sheen yn ei wneud ar nifer o faterion yn yr ardal yn sicr yn creu cryn argraff ar y bobol,” meddai Bethan Jenkins, Aelod Cynulliad Rhanbarth Gorllewin De Cymru, “a d’yn nhw ddim yn cael eu hystyried yn eiriau gwag gan rywun sydd am dynnu sylw at ei hun, ddim o bell ffordd.

“Ac yn hynny o beth, mae ei gefnogaeth yn help i dynu sylw ehangach at yr achosion hefyd, y tu hwnt i ardaloedd yr achosion unigol.”

Er i Michael Sheen gael ei eni yng Nghasnewydd yn 1969, roed ei rieni yn hannu o Bort Talbot ac fe symudon nhw yn ôl yno o Lerpwl pan oedd yn wyth oed. Aeth y mab i Ysgol Gynradd Blaenbaglan, Ysgol Gyfun Glan Afan, a Choleg Castell Nedd lle magodd ei ddiddordeb mewn drama trwy Gwmni Drama Ieuenctid Gorllewin Morgannwg. Roedd hefyd yn bêl-droediwr disglair a gafodd gynnig i ymuno â chlwb Arsenal. Ond y llwyfan a enillodd.

Cafodd ei fagu yn y cyfnod pan oedd gwaith dur Port Talbot yn dechrau dioddef yn economaidd oherwydd effaith argyfwng olew y 1970au, a’r nifer o weithwyr yn raddol leihau o’r 18,000 yn y 1960au i’r 4,000 sydd erbyn hyn yn wynebu dyfodol ansicr.

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn llwyddiannus i Michael Sheen, yr actor sy’n cael ei ystyried bellach yn un o sêr Hollywood. Er ei fod yn byw yn Los Angeles lle mae ei ferch, Lily, yn byw gyda’i mam, Kate Beckinsale, mae’n cadw cysylltiad agos iawn â Chymru.

“Mae’n siŵr ei fod nôl yma unwaith bob rhyw chwe wythnos,” meddai awdur llyfr ar gyfraniad Port Talbot i’r byd actio, The Actor’s Crucible.

“Mae ei ymwybyddiaeth o’i wreiddiau yn y Cymoedd yn ddwfn iawn,” meddai Angela John. “Mae wedi dweud droeon ‘My Welsh roots are everything,’ ac mae’n gwbl ddidwyll wrth ddweud hynny.

“Ei agwedd yw mai o Gymry y mae’n dod, dyna lle y mae ei bobl a dyna ei dir. Mae’n dangos hynny trwy gefnogi nifer o ymgyrchoedd sy’n rhan o’i ymwybyddiaeth wleidyddol a hanesyddol Gymreig. Mae’n anarferol iawn ymhlith ei gyd-actorion yn hyn o beth.

“Fel sy’n digwydd yn aml, mae ein syniad o’n hunaniaeth yn dod yn gliriach wrth i ni ddod i gysylltiad â diwylliannau a hunaniaethau eraill ac, yn achos Michael, mae’n dweud mai symud i Lundain yn ddeunaw oed, pan aeth i RADA, wnaeth iddo sylweddoli beth y mae’n olygu i fod yn Gymro ac arwyddocâd hynny i’w ffordd o weld y byd.”

Yn ogystal â chefnogi gweithwyr dur Cymru, mae Michael Sheen wedi bod yn rhan o ymgyrch yn erbyn dymchwel cofeb y Siartwyr yng Nghasnewydd, wedi annerch rali yn Nhredegar i amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd, wedi dechrau deiseb dros hawliau’r di-gartre yng Nghymru, wedi cefnogi’r ymgyrch i ailagor twnnel Blaengwynfi ac i gael Senedd Ieuenctid yng Nghymru.

Yn fwy diweddar mae wedi lleisio ffilm, A River, sy’n tynnu sylw at achos arall yn ei filltir sgwâr – ymgyrch yn erbyn y cynlluniau i dyllu am nwy, ffracio, yng Nghwm Afan.

“Rydyn ni wedi cael cefnogaeth lawn gan Michael Sheen ym Mhontrhydyfen,” meddai John Lind, aelod o’r grŵp sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau ffracio. “Mae cael ei gefnogaeth wedi codi hyder pobol y pentre’ yn sylweddol, gredech chi byth, gan ei fod yn dangos i ni fod rhywun fel fe’n cymryd beth rydym ni’n ei ddweud o ddifri. Mae hefyd yn dangos ei fod e’n dal i gredu bod y fan lle cafodd ei fagu yn bwysig iddo fe, dyw e ddim wedi ein hanghofio ni.”

Mae gan yr actor gysylltiad teuluol â’r pentre’ gan fod ei hen dad-cu, y glöwr a phregethwr, John James Price, yn mynd i’r un capel â theulu’r actor Richard Burton.

“Y gwaith mwya’ anodd mewn ymgyrch fel hon,” meddai Steve Roper, sy’n cynnal Clwb Codi Pwysau Pontrhydyfen, “yw cael pobol i ymgyrchu gyda ni. Mae 95% yn erbyn y cynlluniau i arbrofi gyda ffracio yma, ond fydd 95% ddim yn cefnogi’r ymgyrch. Y dasg i ni yw cynyddu’r ganran sy’n fodlon cefnogi’n gyhoeddus. Mae llais Michael Sheen o’n plaid ni yn sicr wedi bod yn help i’r broses yna.”

Drwy ei ymgyrchu, mae sawl un o’r farn y byddai Michael Sheen yn wleidydd da ac effeithiol. Ond, yn ôl AC Plaid Cymru Bethan Jenkins, efallai ei fod yn fwy effeithiol y tu hwnt i ffiniau pleidiau gwleidyddol.

“Mae’n siŵr bod y dylanwad sydd ganddo ar hyn o bryd oherwydd nad yw’n gwisgo lliw plaid benodol. Mae ganddo safbwynt athronyddol a gwleidyddol penodol wrth gwrs, ond dyw e ddim yn bleidiol. Does dim gwadu iddo gael dylanwad, ac mae’r ddeiseb dros y di-gartre yn arwydd glir o hynny, gan fod y Cynulliad wedi ymateb iddo.

“Yn y dyfodol, mae’n ddigon posib y bydd yn sefyll yn enw plaid, cawn weld. Ond yn y cyfamser mae’n sicr petai pob person enwog yn ymgyrchu fel y mae e’n gwneud, byddai’r byd yn llawer gwell lle!”