Yn ôl un o grwpiau mwyaf poblogaidd y 1990au, mae angen mwy o girl bands ar Gymru..

Fe fydd un o grwpiau merched cyntaf Cymru yn perfformio heno ar lwyfan Clwb Pêl-droed Y Fenni yn un o gigs Cymdeithas yr Iaith.

Ac os bydd yr ymateb unrhyw beth yn debyg i’r hyn gafodd Eden yn Tafwyl yng Nghaerdydd fis diwethaf, fe fydd y tair aelod ar ben eu digon.

Aeth 20 mlynedd heibio ers i Rachael Solomon, Emma Walford a Non Parry ddod ynghyd i ffurfio girl band Cymraeg.

Yn 1996 roedd ‘Girl Power’ yn teyrnasu a’r gân ‘Wannabe’ gan y Spice Girls yn anthem i ferched ledled y byd.

Ac roedd gan Gymru Eden, yn dawnsio’n slic a secsi i ganeuon poblogaidd fel ‘Paid â bod ofn’ ac yn osgeiddig wrth berfformio’r faled bwerus ‘Gorwedd gyda’i nerth’ ar raglenni S4C.

Ac fe ddaeth yn amlwg yn Tafwyl eleni fod apêl y band, os rhywbeth, wedi cryfhau wrth i’r dorf – yn rhieni a’u plant – gyd-ganu’r caneuon.

“Doedden ni ddim yn disgwyl ymateb fel yna o gwbl,” meddai Rachael Solomon, traean o Eden ac ymchwilydd i gwmni teledu sy’n magu dau o blant yng Nghaerdydd.

“Roedden ni wedi cael dipyn bach o sioc efo’r ymateb… roedd tua 400 yna… roeddwn i’n teimlo yn eithaf emosiynol, achos roeddwn i jest wedi cael sioc efo’r ymateb.

“Achos roedden ni jest yn meddwl: ‘Does yna neb yn gwybod pwy ydan ni ddim mwy’… achos mae ugain mlynedd wedi bod ers i ni ddechrau gwneud pethau. Ond roedd o’n crazy.

“Ac roedd yna oedolion yr un oedran â ni, yn canu [gyda’r band]. Ond roedd plant bach hefyd [yn canu] ‘Paid â bod ofn’, ‘Gorwedd gyda’i nerth’… roedd o’n really od gweld y plant bach yn canu’r geiriau…

“Ond ers Eden, does dim really girl band arall [wedi bod], nag oes? Mi oedd TNT a Pheena, ond dw i ddim yn meddwl bod nhw wedi cael yr un ymateb a be gafon ni.

“Ac mae angen mwy o bethau fel yna rŵan… fysa fo’n brilliant i gael girl bands eraill… achos dw i’n gwybod o fy mhlant i, fysan nhw’n licio girl band, boy band, mix band…”

Tra bod Rachael Solomon yn gweithio tu ôl i’r camera ar raglenni Codi Canu, Codi Gôl a Diolch o Galon, mae Emma Walford yn gyflwynydd ac yn actio yn y gyfres gomedi i blant, Ysbyty/Hospital.

Yn ddiweddar mae Non Parry wedi bod yn sgrifennu’r gyfres Anita gyda Caryl Parry Jones.

Ond er y prysurdeb ym myd teledu, mae’r tair hefyd yn llwyddo i gyfuno magu plant gyda bod mewn dau fand.

Maen nhw’n rhan o Footloose, eighties tribute band sy’n chwarae mewn priodasau a gigs corfforaethol… ac maen nhw’n atgyfodi Eden pan ddaw’r alwad.

“Digwydd bod,” cofia Rachael Solomon, “wnaeth Tafwyl gysylltu a gofyn: ‘Ydach chi’n ffansi gwneud Tafwyl?’

“Ac roedden ni fel: ‘Ie, go on ta!’ Ac roedd o’n hollol crazy

“Felly pan wnaeth Cymdeithas yr Iaith ofyn i ni [gigio], roedden ni fel: ‘Pam lai?’”

Mi fyddan nhw’n rhannu’r llwyfan yng Nghlwb Pêl-droed Y Fenni heno gyda’r band Skep ac hefyd Elvis Cymraeg.

“Rydan ni’n really mwynhau [atgyfodi Eden],” meddai Rachael Solomon, “mae o’n esgus i’r tair ohonom ni weld ein gilydd.”

Ac maen nhw’n chwarae gyda band byw sy’n cynnwys sawl cerddor hynod dalentog: Steffan Rhys Williams enillydd Cân i Gymru 2003 (gyda Non Parry); Aled Richards cyn-ddrymiwr Catatonia, a Siôn Llwyd fu’n cyfansoddi caneuon i Elin Fflur.

Y fam yn synnu’r ferch

“Roedd o’n lyfli”, meddai Rachael Solomon, bod ei phlant wedi cael ei gweld hi ac Eden yn perfformio yn Tafwyl.

“Maen nhw wedi tyfu fyny yn gwybod bod Mam yn canu mewn band, flynyddoedd yn ôl.

“Ond doedden nhw ddim really wedi gweld ni.

“Roedd Alys, fy merch 15 oed i, doedd hi jest methu credu’r peth.

“Roedd hi fel: ‘Mam, roedd gymaint o bobol yna, ac roedd pawb yn canu’r caneuon. Mae o’n brilliant!’

“Mae o’n really neis bod nhw’n cael gweld be’r oedden ni’n arfer wneud.”

Ond nid yw’r routines dawnsio cweit mor full-on y dyddiau hyn.

“Rydan ni yn dal i drio gwneud y symudiadau, er, rydan ni wedi tone-io fo lawr lot,” eglura Rachael Solomon.

Ond mae’r angerdd i ddiddanu’r dorf yn gryfach nag erioed.

“Ugain o flynyddoedd yn ôl, swydd llawn amser oedd o. Gwaith.

“A rŵan, rydan ni jest yn mwynhau o lot yn fwy. A jest yn teimlo’n lwcus ein bod ni’n cael y cyfle i’w wneud o eto.”