Pan fydd yna ddadansoddi go-iawn ar hanes Cymru a’r Covid, mi fydd yn ddiddorol gweld i ba raddau y mae Lloegr wedi dylanwadu ar benderfyniadau ein llywodraeth ni.

O’r adroddiadau niwlog sydd wedi dod, Lloegr oedd gryfa’ o blaid llacio’r rheolau am bum niwrnod dros y Nadolig: penderfyniad a chyhoeddiad sydd bellach yn ymddangos yn un o gamgymeriadau mawr y pandemig.