Rydyn ni wedi dysgu’r wythnos hon pa dimau y bydd Cymru yn eu hwynebu yn ein grŵp cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar 2022. ­Unwaith eto, byddwn ni’n ymweld â’n hen ffrindiau o Wlad Belg. Rydw i’n meddwl y byddwn ni yn edrych ymlaen at y gemau tipyn bach mwy na’r Belgiaid, ar ôl y canlyniadau diweddar rhwng y ddwy wlad.