All publicity is good publicity,” medden nhw.

Dyna un rheswm, o bosib, pam ein bod ni fel Cymry yn mynd i gynnwrf a chyffro mawr bob tro y caiff gair o Gymraeg ei ddefnyddio mewn rhaglen deledu neu radio Brydeinig, neu y cawn ni ychydig o sylw mewn erthygl bapur newydd neu fideo feiral.