Ma’n siŵr mai tua mis Medi 1990 o’dd hi pan ofynnodd ein hyfforddwr pêl-droed i blant Ysgol Rhydypennau pwy o’dd y chwaraewr gore yn y byd. ‘Maradona’, medde un, ‘Maradona’, medde un arall, ‘Schillaci’ medde un, i fod yn wahanol ar ôl gwylio Italia 90. ‘Roger Milla’ medde un arall gan ddilyn yr esiampl, ‘Ian Rush’ medde un gwladgarol, ‘Maradona’ medde un arall, ‘Maradona’ eto, ‘Maradona’… a wedyn trodd yr hyfforddwr ata i… ‘Diego Armando Maradona’ medde fi’n bendant, i ddangos fy hun.