Fe ddaeth ac mi aeth. Dyna Dominic Cummings yn gadael Rhif 10 Stryd Downing gyda’i blydi bocs – yn mynd mas drwy’r drws pwysig yn sioe i gyd gan gerdded i ffwrdd fel y Joker yn The Dark Knight ar ôl chwythu lan ysbyty.

“Those mob fools want you gone. So they can get back to the way things were. But I know the truth, there’s no going back. You’ve changed things… forever,” medde’r Joker yn Batman, er galle fe’n hawdd ’di dod o geg Dominic.