Dydi hi ddim yn anghyffredin siarad am waith; a dweud y gwir, mae’n un o’r prif sgyrsiau mae pobl yn eu cael. Mae’n gyfle bach i gwyno neu leddfu rhwystredigaeth, neu gyfleu wrth bawb: “O! Dw i mor lwcus fy mod i’n cael fy nhalu am wneud fy hobi!” (peidiwch â bod yn un o’r bobl hynny).

Peth arall ydi trafod gwaith pobl eraill â nhw, sydd, er mawr ddigalondid i’r sawl sy’n gwneud y gwaith hwnnw, fel arfer yn ymwneud â phethau mwy arbenigol.