Mae rapiwr o Gaerdydd yn aflonyddu’r sîn Grime Llundeinig, ac mae’n hen bryd i’r Cymry dalu sylw hefyd…

Mae Sonny Double 1, artist Grime dawnus o Grangetown yn prysur ennill ffans drwy’r byd, diolch i blatfformau fel Apple Music a YouTube.

Grime yw’r enw ar y math o fiwsig hip-hop dinesig, neu urban, sydd wedi ei wreiddio ym mywyd pobol ifanc y dinasoedd, ac sy’n aml yn wleidyddol o ran geiriau. Mae’r sîn yn mynd o nerth i nerth yng Nghaerdydd, diolch i grwpiau fel Astroid Boys a Mase the

Great yn ogystal â Sonny Double 1. Eraill sy’n gwneud argraff yw B Written a Reuel Elijah.

Ond mae’r artistiaid dawnus yma yn teimlo eu bod nhw’n syrthio rhwng dwy stôl. Mae hi’n anodd iddyn nhw dorri drwodd i’r sîn gerddoriaeth Seisnig yn Llundain a thu hwnt, ond hefyd mae’n anodd iawn iddyn nhw gael gwrandawiad teg yng Nghymru.

“Mae yna ryw deimlad felly,” meddai Sonny Double 1 wrth Golwg. “Y teimlad os ydych chi’n dod o ganol dinas fel Caerdydd, nad ydych chi wastad yn cynrychioli Cymru’r gorffennol… ond mae’n Gymru newydd, yn ffordd newydd o fynegi’n hunain.”

Sonny yn y stiwdio

Pan oedd yn blentyn yn Grangetown, doedd yna ddim synau tebyg i’w clywed gan gerddorion Cymreig, meddai, dim ond perfformwyr enwog fel Shirley Bassey a Tom Jones.

“Roedd yna gysylltiad gyda nhw, ond roedd yn fwlch mor fawr o ran oedran, roedden ni’n teimlo bod yna gyfrifoldeb arnon ni i geisio cyflwyno sŵn newydd, a naws newydd, a cheisio mynegi ein hunain orau ag y gallwn, mor rhydd ag y gallwn.”

Mae blas Caerdydd yn bendant ar ganeuon Sonny Double 1, a’i odlau slic yn cyffwrdd ar fywydau cymunedau Grangetown a’r ardal – o beiriannau Tesco i smocio joints, trybini cariadon a chyfraith, heb anghofio’r herfeiddiwch hanfodol: ‘Making moves cause I’m special…

Ond be’ deimlwch chi fwya’ yn ei gerddoriaeth Grime yw’r cysylltiad dwfn â’i gymdeithas a’i bobol, y cymunedau amlieithog ac aml-ddiwylliannol: ‘This city that’s where I’m from yeah… I’ve got Somalian mates…’ meddai yn ‘City on my Side’, cyn ailadrodd y llinellau, ‘You don’t care about the life of a black guy.’

Mae caneuon a fideos Sonny Double 1 i’w gweld ar ei gyfrifon YouTube, Instagram, Twitter, Spotify, Facebook ac ati. Apple Music yw’r platfform mwya’ buddiol iddo hyd yma, meddai. Ond cafodd cryn sylw ar ôl ei berfformiad dim llai na gorchestol ar slot ‘Fire in the Booth’ ar y Charlie Sloth Rap Show, yn rapio’n ddi-dor am bron i chwarter awr. Mae clip o’r perfformiad wedi’i wylio 34,700 o weithiau ar YouTube.

“Does yna ddim llawer o bobol sy’n cael gwneud hwnnw,” meddai Sonny Double 1. “Dim ond artistiaid hip-hop gorau’r byd. Mi wnes i lwyddo i fynd arno oherwydd bod gen i berthynas dda gyda Charlie.”

Sgrifennodd ei gân ddiweddaraf, ‘Disturbing London’, sydd wedi’i wylio 33,000 o weithiau ar sianel YouTube Sonny ei hun, mewn ymateb i’r perfformiad hwnnw. Mae’r cynhyrchu ar y gân o’r safon ucha’ – ‘next level’ yw disgrifiad un adolygwr – ac yn dangos bod y boi o ddifri’ am darfu ar Lundain gyda’i sŵn heintus.

“Roeddwn i’n meddwl ei fod yn deitl da,” meddai. “Pan rydych chi’n gwneud cerddoriaeth yng Nghymru, mae yna ryw fath o drothwy gwahanol mae’n rhaid i chi ei basio er mwyn cael eich derbyn i fyd cerddoriaeth Lloegr. Roeddwn i eisiau gwneud datganiad ar ôl i mi wneud ‘Fire in the Booth’ ar sioe Charlie Sloth.

“Ar ôl gwneud rhywbeth mor fawr, roedd rhaid i fi fanteisio arno drwy ddangos fy siwrne i. Mae yn fwy i wneud efo arwain y sîn urban Gymreig, a dangos iddyn nhw ei bod hi’n bosib croesi’r bont a gwneud sŵn draw fanna.”

Mae’r ymatebion o dan y clip ‘Fire in the Booth’ yn dweud y cwbl, a phobol yn galw ar y byd a’i frawd i roi sylw i Sonny: ‘This guy’s talented man, word play is insane’ a ‘… just a shame he aint from London or somewhere more major, as if he was this video would have way more views!’

A hefyd: ‘Sick! You really can feel his passion behind the bars. Always searching for eye contact with Charlie, like he’s telling him a story. Crazy Talent! Huge underrated rapper! Would love to hear more of him. Props.’

Un o’i ganeuon mwya’ poblogaidd yw ‘Mo Farah’, fideo sydd wedi cael ei wylio 287,000 o weithiau ar YouTube.

“I mi does dim teimlad gwell na chael artist arall ar y radio, ar y prif sioeau, sydd ag acenion Cymreig neu darddiad Cymreig, oherwydd dyna o le dw i’n dod,” meddai.

Rhoi gwrandawiad teg i “lenyddiaeth” y stryd

Mae bod yn gerddor o Gymru yn gallu bod yn jobyn “unig” ar brydiau, yn ôl Sonny Double 1, ac mae ei lwyddiant yn deillio o’i ddycnwch a’i waith caled ei hun. “Dyw’r ddinas ddim wedi ei seilio ar y diwydiant cerddoriaeth,” meddai.

Minimal,” meddai, yw’r gefnogaeth y mae wedi ei chael gan y cyrff sy’n hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig. “Dw i wedi cael ychydig bach o gefnogaeth gan BBC Radio Wales, ond dw i’n teimlo y gallan nhw wneud mwy. Mae ganddyn nhw’r gallu i chwarae ein cerddoriaeth ar y radio, ond… oni bai eich bod chi’n ffrindiau personol â’r rheiny sydd ar y top, dyw e ddim fel pe baech chi’n gallu cael eich cerddoriaeth wedi’i chwarae na’r cyfleoedd maen nhw’n eu cynnig. Rydych chi’n teimlo nad ydych chi wedi’ch cynnwys.

“Dw i bendant yn teimlo nad ydw i wedi fy nghynnwys yn y math yma o ddigwyddiadau.”

Saesneg cynnes Grangetown sy’ ganddo – prin iawn yw’r Gymraeg mae’n ei chofio o’r ysgol, meddai.

Mae ei fiwsig yr un mor ddilys â gwaith beirdd eisteddfodol Cymru, meddai. “Wrth gwrs. I’r rhai ifanc, dy’n ni ddim yn gweld y gwahaniaeth rhyngon ni a llawer o’r stwff yna.

“Mae eisiau hybu cerddoriaeth urban Cymru, a pheidio ei wthio i’r neilltu. Ar ddiwedd y dydd, mae e’n llenyddiaeth… Dyma fi – neu rywun arall – yn rhoi pensel ar bapur, ac rydyn ni wedi ennill ffans o bob cwr o’r byd, sy’n barod i’n cefnogi.”

Does dim dwywaith ei fod yn iawn. Mae’n gallu odli fel y fflamia’, a’r cytseiniaid yn clecian a’r dweud yn llithro’n slic wrth iddo barablu’n bert am ei bobol, ei deulu a’i gyfoedion, ei ddinas, ei wlad. Maen nhw fel awdlau twt, angerddol.

Fe fydd yn canolbwyntio ar sgrifennu “quotables,” meddai. “Y dyddiau yma, mae pawb ar Instagram, Twitter ac ati. Pan fydd pobol yn postio lluniau a phethau, maen nhw’n tueddu i roi capsiynau ar y gwaelod. Felly dw i’n tueddu i ganolbwyntio ar greu cerddoriaeth gyda dyfyniadau y gall pobol eraill eu defnyddio.”

“Cyfrifoldeb” i siarad

Y gân fwya’ gwleidyddol mae Sonny Double 1 wedi’i gwneud hyd yma yw’r un a wnaeth ar y cyd gyda’r Astroid Boys, ‘Foreigners’, sydd wedi’i gwylio bron i hanner miliwn o weithiau ar YouTube.

Mae’r fideo’n drawiadol, gyda Sonny a’r Astroid Boys yn bownsio gyda haid o ffrindiau, yn gwneud safiad, o flaen car heddlu ac yn eu dinas. ‘We know that you don’t like the foreigners... You know that I don’t wanna argue, but you know that my people have had enough…’

“Dw i’n tueddu i ddefnyddio’r gerddoriaeth fel math o ddihangfa,” meddai Sonny Double 1, “ond mae cyfrifoldeb arna i fel rôl-model i siarad ar faterion o’r fath pan fydda i’n teimlo bod angen i mi wneud hynny.

“Roedd y gân yna yn trafod yr hyn sy’n dal pobol yn ôl o ran eu hiliaeth a’u hamharodrwydd i addysgu eu hunain am bobol dramor. Y neges roeddwn i eisiau ei chyfleu yw bod pawb yn ddieithryn i rywun.”

Ymddangosodd Sonny Double 1 a’i gyfaill, y cerddor Mase the Great, ar raglen Richard Parks, y cyn-chwaraewr rygbi a’r anturiwr, Can I Be Welsh and Black? ar ITV Cymru yn ddiweddar. Dywedodd Richard Parks rywbeth ysgytwol ar y rhaglen – ei fod yn credu nad yw wedi cael ei dderbyn gan y sefydliad yng Nghymru oherwydd lliw ei groen, er iddo chwarae rygbi dros ei wlad, a bod yn destun derbyniad crand yn y Senedd.

Ond mae’r rapiwr o Grangetown yn falch bod y sgwrs am hil a lliw croen yng Nghymru yn digwydd o’r diwedd, yn sgîl y protestiadau Black Lives Matter byd-eang eleni.

“Mae’n rhywbeth sydd eisiau siarad amdano,” meddai Sonny Double 1. “Am amser hir mae pobol wedi bod yn byw yn y fath fodd fel nad oedden nhw’n teimlo’n rhan o’r gymuned. Roedden nhw bob amser yn teimlo eu bod ar y cyrion, ac nad oedd yr integreiddio yn digwydd yn llawn.

“Mae pethau’n symud yn y ffordd iawn. Mae pobol yn siarad mwy amdano. Ond allwch chi ddim newid diwylliant pobol os yw’n rhan greiddiol ohonyn nhw ac yn cael ei drosglwyddo i’w plant. Mae’n ymwneud ag addysg, a chynrychiolaeth, a chael eich dyrchafu gan y bobol rymus yng Nghymru i gefnogi’r bobol sydd mewn gwirionedd yn gwneud pethau ar eu liwt eu hunain, ac yn ceisio dangos positifrwydd i Gymru.”

Mae yna bobol wedi dod ato a’i ganmol ar ôl gweld y rhaglen. “Mae e’n teimlo eu bod nhw’n gallu gweld pwy ydw i am y tro cyntaf yn fy mywyd,” meddai Sonny Double 1. “Felly mae hynny’n beth cadarnhaol i fi. Dw i’n falch ei fod wedi’i ddangos mewn ffordd barchus a chadarnhaol.”

Mae wedi cynnal ambell weithdy cymunedol ei hun, a bydd yn cymryd rhan yn nigwyddiadau blynyddol Mis Hanes Pobol Ddu yng Nghaerdydd.

“I fi, dyw’r pwyslais ddim cymaint ar hunaniaeth bod yn ddu, ond ar integreiddio a chael cynrychiolaeth,” meddai Sonny Double 1. “Dw i eisiau siarad am sut gallwn ni greu hanes Cymru. Mae yn fwy amdanon ni yn byw fel pobol, fel un.”

Ac i gloi – a yw e, fel y mae’n ei ddeisyfu yn ei gân ddiweddara’, yn tarfu ar Lundain go-iawn? “Yeah, 100%,” meddai. “Dw i’n teimlo bod yr hyn dw i’n ei wneud o’m pen a’m pastwn fy hun yn fwy na be mae neb arall yn ei wneud i mi, felly, ydw. Dw i’n teimlo fy mod i yn arwain y ffordd.”

  • Gallwch ddilyn Sonny Double 1 ar Twitter @sonnydouble1 ac mae popeth, fel y gwelwch uchod, i’w gwylio ar YouTube a Soundcloud.