Mae Sioned yn cadw’r gyfrinach yn sâff yn ei chartref, tu ôl i ddrysau caeedig a llenni trwchus, trwm. Mae ganddi ddefodau er mwyn gwarchod y gwirionedd gan bobol, rhes o gelwyddau golau, parod ar flaen ei thafod. Be wnaeth hi neithiwr. Efo pwy. Be wnaeth hi ar y penwythnos.

Y gwir amdani ydi fod Sioned yn licio I’m a Celeb.