Does dim byd o’i le ar Gristnogaeth. Fel holl grefyddau’r byd, mae ei negeseuon sylfaenol – cariad, parch, maddeuant, gobaith, ffydd, consyrn dros eraill  – yn rhai fyddai’n gwneud ein byd yn lle dipyn gwell pe bai rhagor ohonon ni’n gweithredu arnyn nhw.

Ond, i unrhyw un sydd wedi bod yn dilyn hynt a helynt un o dele-efengylwyr mwya blaenllaw’r byd yn ddiweddar, mae’n hawdd deall pam mae cynifer o bobl yn meddwl bod rhywbeth mawr iawn o’i le.