Nid yw fy ngwraig yn or-hoff o fyd natur – yn enwedig holl anifeiliaid y byd. Yn wir, prin yw ei diddordeb ynddynt.

Er enghraifft, gallwn fynd am dro i’r goedwig – a gweld Cnocell y Coed brydferth yn hedfan rhwng y coed:

‘Ew! Dyna hyfryd!’ dywedaf.

‘Mae angen i ti golli pwysau’ yw’r ateb.

Neu wrth weld ŵyn bach pert yn mwynhau haul y gwanwyn, cyn iddynt droi’n Lamb Jalfrezi:

‘O! Dyna ciwt!’ meddaf.

‘Mae fy chwaer wedi prynu sosban newydd,’ caf wybod.