Mae’r hydref yn wahanol eleni.

Llynedd, croesawodd Miriam y newid yn y tywydd ar ôl haf clên, tesog. Roedd pacio’r shorts a’r sgertiau byrion mewn bagiau bychain i’w rhoi yn y groglofft yn teimlo’n llesol. Bryd hynny, roedd hi’n amser. Yn amser dod i mewn o’r tu allan a chlosio ar aelwyd, amser gwneud tân a chawl a chyrlio o flaen y teledu.