Ma’ ’na gwestiwn yn ein holiadur 20-1 wythnosol: ‘Beth sy’n eich gwylltio chi fwya’?’ Ma’ pobol fel arfer yn ateb, yn ddigon rhesymol, ‘newyn’ ne ‘rhyfel’ ne ‘bwlio’ ne’ falle ‘y llywodraeth’. Cweit reit. Ond sen i’n onest, yr unig ateb allen i roi i’r cwestiwn yw: ‘pobol yn cywiro iaith pobol’.