Mae dramodydd o Nefyn wedi cael blas ar weithio gydag arlunydd o Syria ar droi ei drama yn nofel graffeg …

Mae arlunydd graffeg o Syria wedi bod yn gweithio gyda chwmni theatr o Aberystwyth ar droi drama yn nofel graffeg.

Drwy gyfarfodydd Zoom dros yr haf gyda’r dramodydd, Mared Llywelyn, mae Hamid Sulaiman wedi addasu golygfa gyntaf drama am beryglon y We i bobol ifanc, a’i droi’n ddarn o gelfyddyd ryngwladol.

Aeth cwmni Arad Goch â’r drama Hudo ar daith ym mis Tachwedd 2019 – drama sy’n sôn am oedolion yn cam-fanteisio yn rhywiol ar bobol ifanc ar-lein.

Mae Hamid Sulaiman, sy’n byw yn Angoulême yn Ffrainc ar ôl ffoi o’i famwlad, wedi ennill gwobrau am ei ‘gampwaith tywyll’ o nofel graffeg am ryfel Syria, Freedom Hospital. Daeth Arad Goch i gysylltiad ag e drwy gynllun Literary Europe Live Plus y sefydliad Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, gyda chymorth arian o raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd.

Drama bum olygfa, neu bum stori, yw Hudo ac fe ddewisodd Arad Goch weithio ar y stori gyntaf gyda Hamid Sulaiman. Ynddi, mae llanc o’r enw Alun, sy’n byw a bod ar ei Xbox, yn cael ei ddenu gan ferch ifanc ar-lein i gyfarfod ag e yn y byd go-iawn. Mae e’n mynd i dŷ dieithr, ond yn sylweddoli bod rhywbeth o’i le…

“Ro’n i’n gorfod mynd drwy’r olygfa yn eitha’ manwl efo Hamid iddo fo gael deall yn union beth oedd yn digwydd ynddi,” eglura’r dramodydd o Forfa Nefyn, Mared Llywelyn, a oedd eisoes wedi cyfieithu Hudo i’r Saesneg ar gyfer y daith.

“Mae o wedi meddwl am y llinyn storïol yn ei ben ac wedyn mae o wedi gwneud rhyw fath o ddeialog newydd efo fo. Mae o wedi defnyddio’r geiriau a rhai o’r ymadroddion o’r olygfa ond, achos mai monolog oedd hi, mae o wedi gorfod meddwl am gymeriadau newydd.

“Dw i wedi mwynhau’n aruthrol. Er fy mod i heb gyfarfod Hamid yn y cnawd, dw i’n teimlo ein bod ni wedi dod i ’nabod ein gilydd ryw fath. Mae o’n foi hwyliog iawn, yn ddoniol, ond mae ganddo fo’r hanes cwbl anhygoel yma, ond yn arlunydd talentog a llwyddiannus iawn ac yntau ond yn 32 oed. Mae o’n amlwg efo gweledigaeth gref iawn.”

Yn ôl Hamid Sulaiman, mae hi wedi bod yn “bleser o’r mwyaf” cael gweithio gydag Arad Goch, a chael mwynhau’r “lefel uchaf o gynhyrchu, creadigrwydd a synnwyr digrifwch” dros yr haf.

Er bod addasu “stori ragorol” fel Hudo yn dipyn o her, mae e “bob amser” yn mwynhau gwaith o’r fath, meddai. “Mi wnes i ganolbwyntio fy holl egni i geisio rhoi i’r stori’r naratif gweledol mae’n ei haeddu ac, ar yr un pryd, aros mor driw â phosib i’r testun gwreiddiol. Mae’r broses o ddatblygu’r nofel graffeg yma yn fy ngwneud i’n hapus.”

Aaron William-Davies yn y ddrama Hudo

 

Tryweryn a’r Furries mewn comic

Roedd y ddrama Hudo wedi cael ei lleoli yng nghefn gwlad Cymru, oherwydd mai bwriad gwreiddiol y ddrama oedd darbwyllo pobol ifanc bod cam-fanteisio rhywiol yn gallu digwydd mewn pentrefi bach yn ogystal ag mewn dinas. Ond mae’r nofel graffeg o reidrwydd yn fwy dinesig, yn ôl Mared Llywelyn, am bod “Hamid o gefndir dinesig”.

“Mae o wedi darlunio dipyn o bethau sy’n ymwneud efo Cymru yn rhai o’r graffiti ar y waliau – mae o wedi rhoi rhai o album covers y Super Furries, ac un darlun sydd efo ‘Cofiwch Dryweryn’ arno fo.

“Ro’n i wedi sôn ychydig am y pethau dw i’n ymddiddori ynddyn nhw, a’r pethau sy’n bwysig i bobol yng Nghymru. Ro’n i wir am roi stamp diwylliant Cymreig arno fo. Roedd o yn sôn y byddai’n dda rhoi ychydig o ymadroddion mewn ieithoedd eraill hefyd… Yn amlwg mae o’n agored i lwyth o ddiwylliannau eraill.”

Pethau cymharol brin yw nofelau graffeg Cymraeg, er bod adfywiad wedi bod yn ddiweddar ymysg darlunwyr y to iau, fel Huw Aaron, Efa Lois, a Siôn Morgan Owen. Er mwyn hyrwyddo’r cyfrwng a hybu’r cywaith ymhellach, fe drefnodd Arad Goch weithdy dwy ran ar-lein yng ngofal Hamid Sulaiman.

“Mae nofelau graffeg yn bethau cymharol brin yn y gwledydd sy’n siarad Arabeg hefyd, ond dw i’n meddwl y bydd hyn yn newid yn nyfodol y Gymraeg a’r Arabeg,” meddai.

“Dw i ddim yn meddwl bydd gen i ddim byd i’w ddysgu i’r bobol sy’n dod i’r gweithdy. A dweud y gwir dw i’n mynd i ofyn iddyn nhw gymryd rhan mewn funzine, lle bydd pob un yn arlunio stribed comic am bwnc penodol, a dw i’n disgwyl ymlaen at ddysgu ganddyn nhw.”

Y gobaith yw cyhoeddi’r nofel graffeg Gymraeg yn llawn, ac mae Hamid Sulaiman yn bwriadu addasu’r nofel graffeg i ieithoedd eraill, yn benodol y Ffrangeg a’r Almaeneg.

“Mae hynny’n anhygoel,” meddai Mared Llywelyn. “Mae hi mor bwysig ein bod ni fel Cymry yn gallu rhannu ein gwaith a’i gyfieithu i ieithoedd rhyngwladol. Mae hi mor bwysig bod yn eangfrydig, a’n bod ni wedyn yn gallu cyfieithu gwaith rhyngwladol i’r Gymraeg. Dw i wedi teimlo’n hollol freintiedig fy mod i wedi gallu cyfarfod Hamid.”

**********

Ffoi, ac ailddechrau

Cafodd yr arlunydd Hamid Sulaiman ei eni yn Damascus, prifddinas Syria, yn 1986, ac enillodd radd mewn pensaernïaeth a chelf o brifysgol y ddinas yn 2010. Ar ôl i ryfel cartref gychwyn yn y wlad yn 2011, cafodd ei garcharu am gyfnod cyn iddo allu dianc drwy wlad Iorddonen i’r Aifft, ac oddi yno i’r Almaen a Ffrainc.

Cyhoeddodd ei nofel graffeg gyntaf am ryfel Syria, Freedom Hospital yn 2016, a ddenodd ganmoliaeth frwd.

Mae’r nofel graffeg, y ‘nawfed gelfyddyd’ yn ôl byd y bandes dessinnées Ffrengig, yn ffordd hwylus i adrodd straeon cymdeithasol a gwleidyddol, yn ôl Hamid Sulaiman.

“Y rheswm am hynny, yn fy marn i, yw hyblygrwydd ffurf y nawfed gelfyddyd o’i gymharu â chyfryngau eraill  fel theatr, animeiddio a sinema,” meddai. “Mae eisiau llai o bobol arnoch chi – dim ond un sydd eisiau i sgrifennu ac arlunio’r stori, neu ddau, un i greu’r golygfeydd ac un i arlunio, ac mae gyda chi nofel graffeg. Mae mor hawdd â hynny.”