Bydd darlith goffa Gŵyl Daniel Owen eleni yn edrych ar ba mor gyfoes yw dylanwad ‘Tad y nofel Gymraeg’, Daniel Owen – ac mae hynny’n amserol o gofio y bydd yn digwydd drwy Zoom.

Cynhelir yr ŵyl yn yr Wyddgrug y Sadwrn yma, Hydref 17, tan ddydd Gwener, Hydref 23. Bydd digwyddiadau ar-lein bob dydd, ynghyd â theithiau cerdded i fannau sy’n gysylltiedig ag awdur clasuron fel Enoc Huws a Gwen Tomos.