Yn ei arddegau roedd Aron Snowsill yn diodde’ o PTSD yn dilyn cyfres o gyfergydion wrth chwarae rygbi. Ac wedi cyfnod o iselder yn ei ugeiniau, daeth achubiaeth ar ffurf bwydydd maethlon. Aeth i astudio Maeth yn y Coleg Meddyginiaeth Natropathic, ac mae bellach wedi sefydlu ei hun fel Therapydd Maeth cofrestredig yng Nghaerdydd. Mae yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am effaith bwyd ar ein lles meddyliol…