Perthynas yn chwalu yn ystod y cyfnod clo sydd wedi ysbrydoli albym rhif 37 Eilir Pierce…

Chwarter canrif ers iddo recordio ei gasgliad cyntaf o ganeuon, mae Eilir Pierce yn ôl gydag albym rhif 37.

Er yn fab fferm o bentre’ bach Clocaenog ger Rhuthun, tiwns – nid tail – a gitârs – nid gwartheg – sy’n mynd â bryd y cynhyrchydd ffilmiau llawrydd.

Mae yn artist sy’n hoffi gwthio’r ffiniau.